Gwasanaethau
SUT Y GALLWN WNEUD I’R GORFFENNOL WEITHIO I CHI
Mae Trysor yn cynnig ystod eang o wasanaethau treftadaeth, o hyfforddiant
i ddehongliadau, o ymchwil hanesyddol i arolygiad yn y maes. Rydym
yn arbenigo mewn gwneud treftadaeth yn agored i eraill. Dros lawer
o flynyddoedd rydym wedi darganfod ffyrdd o gyflawni hyn, drwy glymu
gwahanol fathau o wybodaeth at ei gilydd, a chynhyrchu prosiectau
diddorol a dealladwy.
Trosglwyddir ein gwasanaethau gan bobl broffesiynol gyda chefndir
sefydledig ac ystod eang o brofiad mewn pob math o waith treftadaeth
– o gyflwyniadau poblogaidd o themâu treftadaeth i gloddio
archeolegol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid cydnabyddedig
i gynnig gwasanaeth llawn integredig.
Os ydych yn fusnes twristiaeth, mewn grwp cymunedol neu yn fudiad
atgynhyrchu fe allwn ni eich cynghori ar sut i ddatblygu eich prosiect
a gyda phwy i gysylltu. Gallwn ddarparu reolaeth am brosiectau syml
neu gymhleth, gan sicrhau ansawdd a throsglwyddiad.
Edrychwch ar ein tudalennau am wasanaethau twristiaeth,
cymuned a hyfforddiant.
Cysylltwch â ni ar ymholiadau@trysor.net
am unrhyw un o’r rhain.
|