Seminarau a
Hyfforddiant Treftadaeth
Mae Trysor yn cynnig rhaglen seminar i hyfforddi pobl o ystod eang
o feysydd i adnabod ac i ymelwa o gyfleon tra’n defnyddio
mwy o’u treftadaeth fel adnodd.
Fe ellir greu seminarau sy’n gweddu i ofynion diddordebau
gwahanol grwpiau, yn amrywio o weithwyr yn y sector twristiaeth
a grwpiau hanes lleol, i’r sector addysgol a chyfundrefnau
datblygu cymunedol.
Fe ellir greu strwythur i’r seminarau i weddu i’ch
gofynion, o gyflwyniadau ffurfiol i sesiynau anffurfiol ar ffurf
gweithdai.
Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar ymholiadau@trysor.net
i drafod eich anghenion hyfforddiant treftadaeth.
|