Newyddion 2006
Paneli a thaflenni Llwybrau Aman Llwchwr

Yn ystod 2006, gwnaethom gwblhau gweithio ar y prosiect yma i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau cerdded gyda byrddau dehongli ar gyfer ardal Dyffryn Aman a’r Llwchwr uchaf, yn siroedd Caerfyrddin a Chastell Nedd Port Talbot. O Landybie i Gwmllynfell, mae 13 bwrdd dehongli mawr a 9 taflen hanes lleol wedi eu creu er mwyn esbonio i’r byd yr hyn sy’n gwneud yr ardal mor hynod a diddorol. Roeddem yn ffodus iawn i fod yn rhan o dîm wnaeth gydweithio gyda’r cymunedau lleol a Phwyllgor y Llwybrau i roi’r stori at ei gilydd.
Ar lannau Bugeilyn

Treulion ni sawl wythnos o’r flwyddyn yn gwneud gwaith maes i ddau brosiect wedi eu hariannu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, fel rhan o Fenter yr Uwchdiroedd. Eleni buon ni astudio’r ardal o gwmpas Bugeilyn, Sir Drefaldwyn (yng nghysgod Pumlumon) a bryniau Gwaunceste, Sir Faesyfed. Mae archaeoleg y ddwy ardal yn wych-yn cynnwys carneddau’r Oes Efydd, cytiau canoloesol a mwyngloddiau o Oes Fictoria. Ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn (37C ar ddiwedd y prynhawn) cawsom ddianc o’r gwres ar lannau llyn Bugeilyn, un o’r mannau hyfrytaf y Canolbarth.
Castell Maenclochog

Yn ystod yr haf poeth, buon ni wrthi’n archwilio safle honedig Castell Maenclochog yn Sir Benfro, ar gyfer Cymdeithas Clochog. Pwrpas y prosiect oedd edrych i mewn i’r traddodiad fod castell canoloesol coll Maenclochog i’w ganfod ar safle maes parcio’r pentref. Wedi cyfnod o ymchwil yn y maes ac mewn gwahanol lyfrgelloedd, daethon ni’r casgliad bod y traddodiad yn debyg o fod yn gywir, ond hefyd fod yna bosibilrwydd mawr fod caer sy’n dyddio i’r Oes Haearn yn bodoli ar yr un safle. Bwriad y gymuned leol yw Adfywio’r rhan yma o’r pentref trwy ddehongli a hyrwyddo hanes y safle a’r pentref.
Fforwm Hanes Cymru ym Mhlas Tanybwlch

Gwnaethom gyflwyno papurau i gynhadledd gyntaf Fforwm Hanes Cymru a gynhaliwyd ym Mhlas Tan y Bwlch, Gwynedd ym Mis Hydref. Siaradodd Jenny ar “Gwerth Treftadaeth” a Paul ar “Byw a gweithio yn Ucheldiroedd y Canolbarth: Safbwynt Archaeolegol”. Mae’r Fforwm yn uno pobl o gymdeithasau lleol, grwpiau cymunedol gydag eraill o’r sectorau cyhoeddus a masnachol. Mae’n addo bod yn fforwm pwysig ar gyfer y sawl sydd â diddordeb yn hanes a thirwedd ein gwlad.
Cofio’r Rhyfel yn Sir Gâr

Hyfryd oedd cydweithio gyda Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin yn ystod y flwyddyn i recordio a hyrwyddo straeon pobl y sir am eu profiadau ar y Ffrynt Cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gwnaethom greu byseddet i’r amgueddfa sy’n cynnwys manylion lleoedd a digwyddiadau o fewn y sir sy’n gysylltiedig â’r rhyfel . Yn ogystal, gwnaethom ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer arddangosfa 22 panel, llyfryn a thaflen i’r prosiect. Mae’r daflen yn olrhain hanes y 10 safle pwysicaf o fewn y sir gydag olion o’r rhyfel yn goroesi. Mae’r rhain yn cynnwys maes awyr y RAF ym Mhenbre a’r darn o Linell Amddiffyn Sir Gaerfyrddin, a godwyd ym 1940 i amddiffyn y de-orllewin o’r ymosodiad disgwyliedig gan yr Almaenwyr. Bydd byrddau dehongli yn cael eu gosod ar y 10 safle hefyd. Gallwch brynu copi o’r llyfryn yn Amgueddfa Caerfyrddin am ddim ond £3!
Newyddion 2005
Edrych ar hanes Pwllcrochan gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru

Yn y gwanwyn, gofynnwyd inni gweithio gyda gwirfoddolwyr ifainc gan Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Sir Benfro i gofnodi hanes Pwllcrochan. Yn ystod y gwyliau hanner tymor, gwnaeth y grwp greu llinellau amser, archwilio’r ardal a disgrifio a thynnu lluniau o safleoedd diddorol. Rhoddwyd y cyfan at ei gilydd i greu hysbysfwrdd i’w osod ym maes parcio’r ganolfan addysg, yn hen eglwys plwyf Pwllcrochan, o fewn fframyn hardd a wnaed gan y gwirfoddolwyr eu hunain.
Archwilio mynyddoedd y canolbarth

Dros sawl wythnos o’r haf buom yn gwneud gwaith maes ar gyfer dau brosiect wedi eu hariannu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, fel rhan o Fenter yr Uwchdiroedd, sydd yn bwriadu cyflawni archwiliad archaeolegol llawn o fynydd-diroedd Cymru. Y ddwy ardal wnaethon ni archwilio oedd darn sylweddol o dir i’r gogledd i fynydd Pumlumon, ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys, a Mynydd Carno ym Mhowys. Mae’r ddwy ardal yn hynod brydferth ac yn gyfoethog iawn o ran eu holion archaeolegol, sy’n dyddio o’r cyfnodau cynnar hyd at y cyfnod modern.
Dehongli Parc Coetir Mynydd Mawr

Ar gais Cyngor Sir Gaerfyrddin, buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Archaeoleg Cambria i gynhyrchu chwech hysbysfwrdd ar gyfer y Parc Coetir Newydd yma ar gyrion pentref y Tymbl yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r parc wedi ei greu ar dir lle bu unwaith dau bwll glo, a chyn safle glo brig. Mae’r hen dirwedd diwydiannol yma bellach yn hafan i fywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â bod yn lle poblogaidd gyda’r cyhoedd.
Seminarau treftadaeth i Gallu—Datblygu Pobl mewn Twristiaeth

Mynychodd dros 30 busnes twristiaeth gyfres o seminarau treftadaeth wnaethon ni baratoi ar gyfer Gallu , dros fisoedd yr hydref. Rhannwyd y sesiynau yn ddau, y rhan gyntaf yn ymwneud â meithrin sgiliau, yn dangos bobl sut i wneud gwaith ymchwil eu hunain, a’r ail rhan yn rhoi cyflwyniad iddynt ar hanes eu bröydd. Cynhaliwyd y seminarau mewn nifer o wahanol ardaloedd yn siroedd Abertawe, Caerfyrddin a Phenfro.
Lansio ein llyfr cyntaf!

Profiad annisgwyl oedd cael ein trin fel ’enwogion’ am ychydig oriau, wrth gael ein gofyn i lofnodi copiau o’r llyfr ysgrifennon ni i gymuned Llandysilio, yn ystod noson y lansio ar y 9fed o Ragfyr! Syniad Pwyllgor Hanes ac Adloniant Llandysilio (y gwir arwyr!) oedd y prosiect yma, ac yn cynnwys cydweithio gyda’r gymuned dros gyfnod o 9 mis er mwyn cynhyrchu llyfr dwyieithog, llawn lluniau, ar hanes Gorllewin Llandysilio, Sir Benfro.
Newyddion 2004
Archeoleg Cambria
Yn y tri mis cyntaf ers cychwyn fel partneriaeth, rydym wedi ymgymryd â sawl darn o waith i Archeoleg Cambria i’w cynorthwyo tra roeddynt yn gosod staff i gymryd ein lle. Roeddem wedi cwblhau prosiect i Symud Ymlaen (Drefach, Felindre). Roedden nhw am wybod am archeoleg a hanes gwahanol lwybrau a hefyd hanes a statws pob llwybr. Buom yn gweithio hefyd ar fas-data i’r prosiectau Eglwysig Canoloesol Cynnar a phrosiectau Claddedigaethol a Defodol Cynhanes am 2003-04 gan sicrhau cywirdeb bas-data y CSH a chynhyrchu ystadegau a rhestr o safleoedd allan o’r data.
I weld mwy am y prosiectau yma ewch at www.cambria.org.uk (yn agored mewn ffenestr newydd).
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Yn ystod yr haf buom yn gweithio ar 13 o lwybrau cerdded i’w hyrwyddo ar daflenni gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyngor yn llwyddiannus wrth ymgeisio am grant o’r gronfa Adfywio a ni gafodd y gwaith o ysgrifennu’r testun i’r 13 taflen. Fe fydd y taflenni yma ar gael yn fuan mewn Canolfannau Croeso yn Sir Gâr.
|