Newyddion 2009
Gwaith yn yr ucheldiroedd

Mae gwaith maes ym mynyddoedd y Canolbarth wedi ffurfio rhan bwysig o’r rhaglen archaeolegol yn ystod y flwyddyn, fel rhan o Fenter yr Ucheldiroedd, sydd yn cael ei weinyddu gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dros fisoedd y gwanwyn, buon ni
allan ar Fynydd Epynt (yn yr eira am gyfnod!) yn gorffen gwaith maes yn ardal Banc y
Celyn. Dros yr hydref, rhan sylweddol (63km²) o fynyddoedd Elenydd, yn Sir Faesyfed
oedd ffocws ein hymdrechion. Gwelir canlyniadau ein gwaith ar wefan Coflein yn y
dyfodol agos.
Treftadaeth ym Mhenfro
Fe’n comisiynwyd gan Planed i ymgymryd â phrosiect diddorol iawn eleni - sef Arolwg o Asedau Treftadaeth a Naturiol Cylch Crymych. Crëwyd bâs-ddata sy’n cynnwys manylion safleoedd hanesyddol ac archaeolegol, atyniadau naturiol a busnesau yn y sector
twristiaeth. Mapiwyd holl lwybrau cerdded a seiclo cymunedau Gogledd Penfro, rhwng y
Preselau a’r Teifi yn ogystal. Gobeithir y bydd hyn yn stôr defnyddiol o wybodaeth i helpu
cynllunio ar gyfer datblygu’r ardal yn y dyfodol, gweler Planed.
Ysbryd y Mwynwyr

Gwelodd diwedd 2008 a dechrau 2009 lansio dau brosiect cymunedol wnaethon ni o dan gynllun Ysbryd y Mwynwyr yng Ngheredigion. Roedd prosiect Ceulanamaesmawr
yn dathlu treftadaeth mwyngloddio gogledd y sir ac yn cynnwys cynhyrchu 5 bwrdd
treftadaeth, taflen, gwefan a CD o straeon hanes llafar. Diolchiadau i gwmni Unigryw
am recordio’r hanes llafar. Ceir manylion y prosiect arlein ar Ysbryd y Mwynwyr.org.uk
. Roedd yr ail brosiect yn dathlu hanes Eglwys Newydd, Cwmystwyth. Crëwyd 3 bwrdd treftadaeth, taflen, a pheiriant sgrîn-gyffwrdd ar gyfer yr eglwys, sy’n cynnwys
fersiwn digidol o’r gofrestr claddedigaethau, a chynllun digidol o’r
fynwent, at ddefnydd ymwelwyr ac ymchwilwyr achau teuluol.
Dehongli treftadaeth

Cawsom gyfle i helpu grwp cymunedol ym Mrynaman Isaf, Dyffryn Aman greu bwrdd ychwanegol i gyfres a godwyd bron i ddegawd yn ôl gan yr awdurdod lleol ym
Mharc Ynysdawela. Mae’r panel newydd yn tynnu sylw at gyfraniad pobl ifainc y fro at gadw’r parc yn gymen. Yn ôl ein harfer, buom yn cydweithio gyda’r dylunydd
Phillip Wait i greu panel deniadol a diddorol.
Cwmtwrch
Rydym yn y broses o greu bwrdd newydd i bentref Cwmtwrch Uchaf,
Powys, i nodi man cychwyn “Ffordd y Glowyr”, llwybr y mae CyngorTref Ystradgynlais yn ei ddatblygu. Mae’n cysylltu, a dehongli, hen byllau glo a gweithfeydd eraill yng nghwm prydferth Afon Twrch, ar gyrion Bannau Brycheiniog. Comisiynwyd lluniau newydd oddi wrth y
rhagorol Dominic Andrews.
Cwmafan

Fe wnaethom daflen i Groundworks Penybont ar Ogwr a Chastell Nedd
Port Talbot i hyrwyddo gardd Siapaniaidd yng Nghwm Afan, sef y Coed
Kanji ger Pontrhydyfen. Mae’r coed yn llawn cerfluniau “Kanji” sef y llythrennau a geir yn
y wyddor Siapaniaidd. Syniad brodor o’r ardal sydd yn naturiaethwr enwog yn Siapan
oedd y Coed Kanji. Paratowyd y daflen ar y cyd gyda’n cyfaill, y dylunydd Alan Williams.
Yn y gymuned...

Rydym wedi cael y fraint eleni eto o gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau treftadaeth cymunedol. Cawsom gyfle i fynd â stondin a chyfrannu at lwyddiant
diwrnodau treftadaeth ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin ac Ystradgynlais, Powys, a
drefnwyd gan ein cyfeillion yn Creu-ad. Rydym hefyd wedi rhoi cyflwyniadau cyhoeddus
mewn perthynas â’n gwaith archaeolegol ar sawl achlysur; i Fforwm yr Ucheldiroedd yn
Aberystwyth, i Gyngor Archaeoleg Prydain yn yr Amwythig a hefyd mewn noson i’r
gymuned yng nghanolfan CARAD, yn Rhaeadr Gwy, yr olaf yn seiliedig ar ein harolwg yn Elenydd. Profiad ardderchog arall oedd helpu Cymdeithas Hanes Llanfallteg, Sir Gaerfyrddin, trwy wneud ychydig o waith golygu, i helpu paratoi eu llyfr hanes lleol ardderchog, a gyhoeddwyd yn gynnar yn y flwyddyn. Gweler Llanfallteg am fwy o wybodaeth.
Sefydliad yr Archaeolegwyr

Ar ôl llusgo ei draed am flynyddoedd, o’r diwedd mae Paul wedi cyflwyno ei gais, yn llwyddiannus, i ddod yn Aelod o Sefydliad yr Archaeolegwyr (MIfA). Mae Jenny wedi parhau fel Cadeirydd y Sefydliad yng Nghymru eleni ond bydd hi’n sefyll i lawr yn ystod 2010 wedi cwblhau cyfnod o 6 mlynedd yn y rôl.
Ffarwelio ag hen ffrind

AWedi 5 mlynedd o wasanaeth ffyddlon ac ymweliadau i rai o
fannau mwyaf anghysbell Canolbarth Cymru, mae car bach du Jenny wedi torri lawr...marw. Y llwybr garw i Glaerwen oedd yr hoelen olaf. Rydym yn chwilio am Landrover neu danc ar gyfer
gwaith maes 2010...
|