Trysor logo
yn gwneud y gorffennol i weithio i chi

Archwiliadau Treftadaeth


Archwiliad Treftadaeth Cymunedol

  • Fe fyddwn yn creu pecyn cynhwysfawr o wybodaeth, themâu a storïau diddorol a fydd yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth i’r gymuned.
  • Mae archwiliad treftadaeth gymunedol yn casglu hanes “swyddogol” a gwybodaeth leol drwy broses o ymchwil ac ymgynghoriad sy’n caniatáu i’r gymuned chwarae rhan ganolog wrth greu’r cynnyrch.
  • Fe gewch archwiliad dibynadwy - adroddiad manwl a chywir wedi ei ysgrifennu’n arbennig i’ch cymuned chwi – yn adlewyrchu blaenoriaethau a gwybodaeth y bobl leol.


Manteision Archwiliad Treftadaeth Gymunedol

  • Mae archwiliad treftadaeth leol yn sylfaen i brosiectau eraill yn y dyfodol - yn cynnwys, taflenni, teithiau, llyfrau hanes lleol neu safleoedd ar y we. Medrir hefyd ei ddefnyddio fel rhan o astudiaeth dichonolrwydd gogyfer â phrosiectau mwy uchelgeisiol o fewn y gymuned neu yn gysylltiedig â phartneriaid allanol.
  • Fe all y broses archwiliad cymunedol gael effaith fuddiol ar hunaniaeth cymuned a chydlyniad cymdeithasol. Fe ddaw hefyd a chyfleon i feithrin gallu cymunedol ac i alluogi pobl leol i ddatblygu ei syniadau ei hun.
  • Mae archwiliad treftadaeth gymunedol yn cynnig cyfle i chwi fod yn rhan o greu a chynnal cofnod o hanes eich cymuned drwy ddefnydd creadigol o fas-data, ffotograffau a mapiau.


 

Jenny Hall: 38, Heol Newydd, Gwauncaegurwen, SA18 1UN   01269 826397   jjh@trysor.net
Paul Sambrook: Treclyn, Eglwyswrw, Sîr Benfro, SA41 3SU   01239 891470   rps@trysor.net