Trysor logo
yn gwneud y gorffennol i weithio i chi

Treftadaeth a Thwristiaeth

Mae’r adran yma yn sôn am y gwasanaethau a gynigiwn i’r sector twristiaeth. Cysylltwch â ni ar ymholiadau@trysor.net am fwy o wybodaeth a phrisiau.

Mae Treftadaeth o fudd i’ch busnes twristiaeth

  • Dyw’r diddordeb mewn archeoleg, hanes a threftadaeth ddiwylliannol heb fod mor uchel erioed. Mae gan bobl hoffter o ymchwilio a darganfod ffeithiau hanesyddol diddorol a storïau yn gysylltiedig â’r llefydd maent yn ymweld â hwy.
  • Mae ymwelwyr sy’n teimlo eu bod wedi gwneud cysylltiad gyda lle yn llawer mwy tebygol o ddychwelyd i chwilota’n ymhellach a hefyd yn debygol o argymell y llefydd hynny i’w ffrindiau.
  • Mae Bwrdd Croeso Cymru yn annog busnesau twristiaeth i gynnwys ”Naws am Le” yn eu cynlluniau, gyda threftadaeth yn rhan annatod o’r hyn sydd ei angen

Gall Archwiliad Treftadaeth Trysor helpu eich busnes

  • Fe fyddwn yn cyflwyno pecyn cynhwysfawr yn llawn o wybodaeth, themâu a storïau diddorol, yn seiliedig ar eich treftadaeth leol, a fydd yn creu deunydd amhrisiadwy ac a fydd yn hyrwyddo eich busnes.
  • Fe gewch archwiliad dibynadwy – adroddiad manwl a chywir wedi’i ysgrifennu yn arbennig i chwi – yn ffocysu ar eich busnes a’ch ardal.
  • Mae archwiliad treftadaeth yn cynnig cyfle i chwi fod yn rhan o greu sector twristiaeth dirgrynol sy’n elwa’n fawr o’r cyfoeth hanesyddol a diwylliannol sydd gan Gymru.


Beth allech wneud gyda’r Archwiliad Treftadaeth

  • Mae’n rhoi gwybodaeth i chi o’r cefndir sydd ei angen i ddifyrru ymwelwyr gyda’ch adnabyddiaeth o hanes lleol a llefydd sy’n werth ymweld â nhw yn eich ardal.
  • Medrwch ei ddefnyddio i greu pecynnau gwybodaeth a thaflenni hyrwyddo, pecynnau croeso, llyfrynnau neu dudalennau ar y we.
  • Medrwch ei ddefnyddio i gyd-fynd â busnesau eraill yn eich ardal, i ddatblygu hyrwyddiadau newydd diddorol sy’n ychwanegu at broffil yr ardal fel lle diddorol i ymwelwyr.


 

Jenny Hall: 38, Heol Newydd, Gwauncaegurwen, SA18 1UN   01269 826397   jjh@trysor.net
Paul Sambrook: Treclyn, Eglwyswrw, Sîr Benfro, SA41 3SU   01239 891470   rps@trysor.net