|
Pwy ydym ni

Graddiodd Jenny Hall o Brifysgol
Birmingham yn 1984 gyda gradd mewn Daeareg ac Archeoleg, ac am y
deng mlynedd yn dilyn fu’n gweithio ar gloddiadau ar draws
y DU. Yn 1993 dechreuodd ar waith gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol
Dyfed, a gydnabyddir erbyn hyn fel Archeoleg Cambria. Am y deng
mlynedd nesaf hi oedd rheolwraig y Cofnod Safleoedd ac Henebion
Rhanbarthol, sef y prif gofnod treftadaeth yn Ne Orllewin Cymru.

Graddiodd Paul Sambrook o Brifysgol
Cymru, Llanbed gyda gradd mewn Archeoleg a Chymraeg yn 1986. Yna
yn 1993 fe gwblhaodd tystysgrif ôl-radd mewn Addysg yng Ngholeg
y Drindod , Caerfyrddin a dychwelyd at Archeoleg fel rheolwr Prosiect
gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Dros y deng mlynedd nesaf,
yn ogystal ag ymgymryd â gwaith maes, fe arbenigodd mewn hyrwyddo
treftadaeth, dehongliadau a gwaith cymunedol.
|