Archifau Cymunedol
BETH YW ARCHIFAU CYMUNEDOL?
Mae llawer o grwpiau cymunedol, gan gynnwys cymdeithasau hanes lleol a chymdeithasau diwylliannol, yn crynhoi eu casgliadau eu hunain o luniau, llythyrau a dogfennau. Os na chaiff y deunydd hwn ei gadw yn ddiogel, neu ei osod mewn archif, gall ddiflannu a bydd rhan werthfawr o hanes y gymuned yn cael ei cholli am byth.
Mae’r dechnoleg newydd, ynghyd â phrofiad Archifdy Morgannwg ac arbenigwyr treftadaeth proffesiynol, yn cynnig cyfle i bobl ddysgu mwy am ffyrdd o greu archifau eu hunain a helpu diogelu deunydd pwysig ar gyfer y dyfodol.
Os oes diddordeb gyda chi ym mywyd eich cymuned yn y gorffennol neu’r presennol, efallai bydd diddordeb gennych hefyd i wybod mwy am greu eich Archif Cymunedol eich hunan. Cysylltwch â ni ac efallai gallwn fod o gymorth i chi.
|