Amdanom ni
Yn 2004 fe wnaeth Paul Sambrook a Jenny Hall sefydlu
partneriaeth Trysor. Roeddem am ddatblygu ein diddordebau personol
a’n sgiliau proffesiynol i helpu cymunedau a busnesau i elwa
o’u treftadaeth.
Rhyngom ni mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad
mewn archaeoleg a threftadaeth. Rydym wedi ein lleoli yn Ne Orllewin
Cymru, un ohonom yn byw yn Sir Benfro a’r llall yn ardal Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot. Dyma’r ardal rydym
yn eu adnabod orau ond rydym wedi dod i arfer addasu ein sgiliau
i unrhyw ardal yng Nghymru.
Wrth geisio diffinio yr hyn rydym yn ei wneud rydym
yn disgrifio ein hunain fel arbenigwyr treftadaeth. Mae ein gwasanaethau
yn fforddadwy ac wedi ei ffocysu ar y cwsmer a’r cynnyrch
yn hytrach nac ar y deunydd crai.
Mae gan Trysor bortffolio sy’n datblygu.
Rydym eisoes wedi cwblhau gwaith i’r ymddiriedolaeth archeolegol
rhanbarthol, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, a’r sector
twristiaeth.
Ceisiwn feithrin tair egwyddor wrth ymgymryd â
phob darn o waith:
Hwylustod cysylltu, Ymgynghoriad
a Chynaladwyedd
Defnyddiwn gliwiau o’r tirwedd a’r
archifau i gyfannu hanes o’r gorffennol ac yna defnyddio’r
hanes yma er budd i’n cwsmeriaid.
Cymerwch eich amser i bori drwy ein gwefan gan
edrych ar y gwasanaethau a gynigiwn, y gwaith blaenorol a wnaethpwyd
a’n newyddion diweddarach.
|